COFNODION CYFARFOD

Y GRŴP TRAWSBLEIDIOL AR Y GYFRAITH

CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU

A GYNHALIWYD YN NHŶ HYWEL

AR DDYDD MAWRTH 19 MEHEFIN 2018 AM 12 Y PRYNHAWN

 

 

Yn bresennol:

 

Mark Reckless AC, Cadeirydd

Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol

Craig Lawton (ar gyfer Suzy Davies AC)

Catriona Brown, Ysgrifennydd

 

1.       Cafwyd ymddiheuriadau gan Michelle Brown AC, Simon Thomas AC, Llyr Gruffydd AC, Mick Antoniw AC a Neil McEvoy AC.

 

2.       Fel Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol y Cynulliad, esboniodd Matthew Richards pa mor eang a heriol yw rôl tîm cyfreithiol y Cynulliad.

 

3.       Dangosodd Matthew Richards ddiagram o strwythur y tîm cyfreithiol yn y Cynulliad, a'i 14 o gyfreithwyr.

 

4.       Eglurodd Matthew Richards fod y gwaith o ddarparu cyngor cyfreithiol yn cael ei rannu rhwng: (1) Matthew Richards (Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol) sy'n rheoli materion fel y tîm, y gyllideb, recriwtio, dyrannu gwaith, a sicrhau bod cyngor a chymorth cyfreithiol yn cael ei ddarparu o ddydd y dydd, a (2) Elisabeth Jones (Prif Gynghorydd Cyfreithiol) sy'n rhoi cyngor cyfreithiol terfynol i'r Cynulliad, yn enwedig ynghylch cwestiynau cymhleth a newydd ym maes y gyfraith.

 

5.       Eglurodd Matthew Richards fod llawer o'r gwaith a'r arbenigedd yn ei adran yn ymwneud â chyfraith gyfansoddiadol y Cynulliad, a'r gyfraith sydd wedi'i datganoli i Gymru. Er fod yr adran yn ymgymryd â gwaith cyfreithiol cynorthwyol eithaf syml, o ystyried na ellid disgwyl i'r tîm 14 o gyfreithwyr feddu ar arbenigedd diweddar ym mhob maes cyfreithiol, mae'r rhan fwyaf o waith cyfreithiol cyffredinol fel gwaith masnachol (a'r holl waith cyfreithiol yn ymwneud â chyflogaeth) yn cael ei anfon at gyfreithwyr arbenigol sy'n gontractwyr allanol.

 

6.       Eglurodd Matthew Richards nad oedd yn hawdd nodi "Pwy yw ein cleient ni?".  Yn bennaf, gwaith ei dîm yw rhoi cyngor i sefydliad y Cynulliad.  Mae hynny'n cynnwys cynghori'r Comisiynwyr mewn perthynas â'u pwerau fel y maent wedi eu nodi, yn benodol, yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (Atodlen 2).  Fel enghraifft, soniodd Matthew Richards am gynghori Comisiynwyr ar gwestiynau ynghylch pwerau mewn perthynas â'r Senedd Ieuenctid.  Nododd Matthew Richards hefyd y gellid cyflwyno cynigion ar gyfer diwygio'r Cynulliad (megis, er enghraifft, cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad, newid rheolau pleidleisio, caniatáu i bobl bledleisio'n 16 oed, ac ati) fel Bil Comisiwn, a fyddai'n debygol o fod yn destun cyngor cyfreithiol cymhleth a sylweddol o'i adran.  Nododd Mark Reckless AC fod y Llywydd wedi ysgrifennu at bob un o'r pleidiau gwleidyddol yn ceisio eu barn ynghylch diwygio'r Cynulliad. 

7.       Wrth drafod "Pwy yw ein cleient?", eglurodd Matthew Richards fod y Llywydd hefyd yn gleient.  Byddai hyn yn cynnwys cynghori'r Llywydd ynghylch p'un a yw Biliau o fewn cymhwysedd y Cynulliad, gan roi cyngor i'r Llywydd o leiaf wythnos cyn cyflwyno Bil.  Er enghraifft, roedd y Bil diweddar i reoleiddio asiantau gosod wedi golygu gwaith mawr i'w adran yn sgil cwestiynau ynghylch cymhwysedd, a hynny gan fod y Bil yn ymwneud â nifer fawr o feysydd eraill.  Nododd Mark Reckless AC y byddai dyfarniad y Goruchaf Lys o bosib yn cyffwrdd ar gyngor swyddogion cyfreithiol y Cynulliad i'r Llywydd (yn yr achos yn ymwneud â Llywodraeth y DU a'r Bil a basiwyd gan Senedd yr Alban er mwyn ceisio sicrhau bod cyfraith yr Undeb Ewropeaidd yn parhau i fod yn berthnasol wedi Brexit. Gwnaed hyn yn groes i farn Llywydd Senedd yr Alban ar gymhwysedd Senedd yr Alban).

 

8.       Eglurodd Matthew Richards fod cwestiynau ynghylch cymhwysedd cyfreithiol y Cynulliad yn dod yn fwyfwy cymhleth gydag amser o ganlyniad i'r cynnydd yn nghorff cyfreithiau Cymru.  Eglurodd Matthew Richards fod ei adran ef yn wynebu heriau mwy yn y maes hwn nag adran Senedd yr Alban, gan fod (i) mwy o bŵerau yng Nghymru yn cael eu cadw'n ôl (hy meysydd cyfreithiol sy'n cael eu cadw yn San Steffan ac sydd y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad) na'r Alban, a ( ii) nid oes gan Gymru awdurdodaeth droseddol a sifil ar wahân.  Nodwyd y gallai'r Llywydd gyflwyno tystiolaeth ffurfiol yn ymwneud â'r materion hyn i Gomisiwn Thomas.  Dywedodd MR AC, pe byddai'n cael cyfle i siarad ag Arglwydd Thomas eto, y byddai'n awgrymu y dylai ymgysylltu ag adran gyfreithiol y Cynulliad mewn perthynas â'r materion hyn.

 

9.       Nododd Matthew Richards fod ei adran yn cynnal cynhadledd flynyddol gyda'u cymheiriaid yn San Steffan, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, yn ogystal â Gweriniaeth Iwerddon, i drafod materion o ddiddordeb cyffredin yn ymwneud â'u systemau cyfreithiol a rôl benodol cyfreithwyr seneddol.

 

10.   Nododd Matthew Richards fod cynghori ar faterion sensitif a materion sy'n ymwneud â gwleidyddiaeth yn rhan o rôl ei adran, a bod y Cyfarfod Llawn fel arfer yn ymdrîn â materion mewn ffordd mwy gwleidyddol na Phwyllgorau'r Cynulliad.  Rhoddwyd enghraifft o gyfnod pan ddarparwyd cyngor cyfreithiol i'r Llywydd ynghylch pa un a allai'r Cynulliad gynnal dadl ar ddatgelu papurau'r Llywodraeth ynghylch amgylchiadau diswyddo Carl Sargeant AC.  Yn ystod y ddadl dan sylw, cyfeiriodd un Aelod at y cyngor a gafwyd, sy'n enghraifft brin o'r cyngor yn cael ei ddefnyddio'n uniongyrchol yn y Cyfarfod Llawn.  Nid oedd Matthew Richards yn credu i'w dîm ddod o dan bwysau gwleidyddol anaddas o fewn y Cynulliad hyd yma o ran ochri â barn benodol.

 

11.   O ran "Pwy yw ein cleient?", eglurodd Matthew Richards fod Aelodau'r Cynulliad hefyd yn gleientiaid.  Mae'r cyngor cyfreithiol y mae ei adran yn ei ddarparu i Aelodau'r Cynulliad yn cynnwys cyngor ar Filiau, gan gynnwys drafftio gwelliannau i Filiau, a drafftio Biliau i'w cyflwyno gan Aelodau'r Cynulliad.  Rhoddwyd yr enghraifft o ddrafftio'r Bil Awtistiaeth i'w gyflwyno gan Paul Davies AC.  Roedd gan y rheini a oedd yn y cyfarfod ddiddordeb yn y ffaith mai cyfrifoldeb y Llywydd fyddai penderfynu a oes digon o amser gan y Cynulliad i alluogi cyflwyno unrhyw Filiau o'r fath.

 

12.   Eglurodd Matthew Richards fod ei dîm yn hyfforddi pobl yn fewnol yn y Cynulliad ynghylch materion perthnasol yn ymwneud â chyfraith ddatganoledig, gan nad oes llawer o gyrsiau allanol sy'n darparu'r wybodaeth dechnegol angenrheidiol.  O bryd i'w gilydd, daw academyddion i'r Cynulliad i hyfforddi cyfreithwyr ar feysydd cyfraith gyfansoddiadol.

 

13.   Nododd Matthew Richards fod ei dîm wedi rhoi cefnogaeth gyfreithiol i Aelodau'r Cynulliad ynghylch Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016/679, a'u bod hefyd yn darparu hyfforddiant.

 

14.   Eglurodd Matthew Richards fod ei dîm wedi llenwi bwlch posibl a'u bod yn darparu hyfforddiant i farnwyr yng Nghymru ar rai materion yn ymwneud â chyfraith ddatganoledig gydag un awdurdodaeth.  Efallai fod hyn bellach wedi newid, ond yn y gorffennol, nid oedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi darparu hyfforddiant o'r fath, ac hyd y gwyddai, nid oedd Llywodraeth Cymru wedi ymyrryd er mwyn sicrhau bod hyfforddiant o'r fath ar gael i farnwyr.

15.   Roedd yr adran gyfreithiol yn croesawu gweithio'n ddwyieithog, gyda phum cyfreithiwr â sgiliau lefel uwch yn y Gymraeg.  Eglurodd Matthew Richards eu bod ar hyn o bryd yn ceisio recriwtio cyfreithiwr gyda sgiliau lefel uwch yn y Gymraeg i gymryd lle aelod o'r tîm a oedd yn bwriadu ymddeol.  O ystyried nad yw'r rhan fwyaf o gyfreithwyr mewn practisiau preifat yn arbenigwyr ym meysydd cyfraith gyfansoddiadol a chyfraith ddatganoledig (a bod y nifer fechan ag arbenigedd o'r fath yn debygol o fod eisoes yn gweithio i Lywodraeth Cymru heb fod awydd newid eu swyddi), y strategaeth wrth recriwtio oedd dewis cyfreithwyr ar sail eu hagwedd a'u parodrwydd i ddysgu, ac yna eu hyfforddi, a chynnwys hyfforddiant yn y gwaith yn benodol.